Pa fodd yr âf i trwy'r Iorddonen?

(Crist yn ddigon yn angeu)
Pa fodd yr âf i trwy'r Iorddonen,
  Oni ddeui di dy hun,
Yno i dòri grym y tonau,
  Ac i gynnal eiddil un:
Dal fy mhen i'r làn yn gadarn,
  Pan bo angeu'n fawr ei rym,
Pledia'n wrol yn ei wyneb,
  Pan na bwyf yn gallu dim.

Mae 'nghyfeillion wedi myned,
  Draw yn lluoedd o fy mlaen,
Rhai sy'n myn'd trwy ddyffryn Baca,
  Gyda mi i Salem lân;
Yn y dyffryn tywyll garw,
  Ffydd i'r làn a'u daliodd hwy,
Mae'r addewid lawn i minau,
  Pa'm yr ofna'm henaid mwy.

A oes neb o'm holl gyfeillion,
  A ddaw'n ddiddig gyda mi,
Ac a orwedd wrth fy ochr,
  Obrŷ yn y ddaear ddu?
A yw cyfaill ddim ond hyny,
  Taflu dagrau, newid gwedd,
Pan bo'r pridd,
    a'r clai, a'r cerig,
  Arnai'n cwympo yn y bedd?

Ffarwel i chwi gynt a gerais,
  Nid yw'ch cwmni, nid yw'ch gwedd,
Nid yw'r cariad sy'n eich calon,
  Ragor, na d'od hyd y bedd;
Pan ddel angeu chwi ffowch ymaith,
  Da i mi fod genyf Dduw,
Ffrind fo gydaf wedi marw,
  Hwnw garaf fi yn fyw.
William Williams 1717-91

[Mesur: 8787D]

gwelir:
  Cofia f'enaid cyn it' dreulio
  Dyma'r byd y mae taranau
  Ffarwel i chwi gynt a gerais
  Mae nghyfeillion wedi myned
  O am nerth i dreulio'm dyddiau
  O Iachawdwr pechaduriaid
  'Rwyf yn gwel'd yr afon ddofn

(Christ sufficient in death)
How can I go through the Jordan?
  Unless thou thyself come,
Here to break the waves' force,
  And to support a feeble one?
Keep my head up firmly,
  Whenever death comes with great force;
Plead bravely in its face,
  When I can do nothing.

Friends have gone,
  Yonder in multitudes before me;
Some have gone through the vale of Baca,
  Together with me to holy Salem:
In the rough, dark vale,
  Faith has kept them up;
The abundant promise is to me,
  Why will my soul fear any more!

Is there none of my friends
  Who will come placidly with me,
And lie by my side
  Beneath in the black earth?
And is a friend only this,
  Shedding tears, altering countenance,
When the earth, and the clay,
    and the stone are
  Upon me falling in the grave?

Farewell to you whom formerly I loved,
  Your company is not, nor is your sight,
Nor is the love that is in your heart,
  More than enough to reach the grave;
When death comes ye flee away,
  It is good for me to be with God,
A friend will be with me after death,
  He will I love alive.
tr. 2012 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~